Skip to main content

https://civilservicelocal.blog.gov.uk/2016/07/08/civil-service-live-yng-nghymru/

Civil Service Live yng Nghymru

Posted by: and , Posted on: - Categories: A National Spotlight

Ar ddydd Mawrth 4 Gorffennaf, aeth y Tîm Gwasanaeth Sifil Lleol ar gyfer Cymru a De Orllewin Lloegr i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd ar gyfer Civil Service Live Cymru.

160705 CS Live Cardiff 960 x 640Mae Civil Service Live yn rhaglen o ddigwyddiadau ledled y wlad sy’n arddangos yr ystod o waith a wneir gan ein gwahanol adrannau. Mae’n rhoi cyfle i glywed nifer o siaradwyr yn trafod sawl pwnc diddorol. Mae’n ffordd wych o ddod â gweision sifil at ei gilydd i ddysgu, rhwydweithio a cyhdweithio.

Bydd y digwyddiad olaf eleni yn cael ei gynnal yn Llundain wythnos nesaf a gallwch gael fwy o fanylion yma.

Roedd yn braf gweld sawl wyneb cyfarwydd sydd wedi gweithio gyda ni yn y gorffenol a da oedd cyfarfod pobl newydd a dweud wrthynt beth y gallwn ei gynnig. Os ydych yn ymwelydd newydd i’r blogiadur yma, a’ch bod am ddysgu mwy am ein gwaith – dyma grynodeb byr:

Pwy ydyn ni?

Tîm bychan sy’n rhan o Swyddfa’r Cabinet ond wedi ein lleoli yn rhanbarthol drwy Gymru a Lloegr. Ein hamcan yw uno adrannau ac asiantaethau trwy gydweithio a chynnig cyfleon ar y cyd er mwyn hyrwyddo’r weledigaeth newydd am Wasanaeth Sifil disglair y dyfodol!

Beth yw’r manteision?

  • Trwy ddatblygu gyda ni, gallwch greu enghreifftiau newydd i’w dyfynu wrth geisio am swyddi neu newid eich gyrfa
  • Mae’n ffordd dda o ddefnyddio eich 5 diwrnod dysgu blynyddol
  • Cewch gyfle i rwydweithio a chyfarfod cydweithwyr o adrannau eraill sy’n gwneud yr un math o waith a chi
  • Gallwch wirfoddoli i helpu eraill yn eich cymuned leol

Dyma rai enghreifftiau o sut rydym yn cydweithio ar draws adrannau :

Rhwydweithiau – ar gyfer gwesion sifil sy’n gweithio mewn maes arbennig. Dyma gyfle i rannu syniadau gydag eraill yn yr un rhanbarth. Ar hyn o bryd, yn y rhanbarth yma, mae gennym rwydwaith ar gyfer Brwdfrydedd staff, Gwella Parhaol a Chyfleon Cyfnewid yn Ne Cymru; Rheoli Mynychiad, Recriwtio ac Ailosod, Gwirfoddoli , a Dysgu a Datblygu.

Cysgodi – gallwch dreulio diwrnod yn dilyn rhywun mewn adran arall i ddysgu mwy am eu gwaith. Neu gallwch gynnig i rywun eich dilyn chi.

Gwirfoddoli – rydym yn cynnig gwahanol ffyrdd i ddefnyddio eich dyddiau gwirfoddoli er mwyn cynorthwyo disgyblion ysgol a phobl yn y gymuned sydd angen ein cefnogaeth.

Sesiynau Darganfod– sesiynau hyfforddi byr sy’n para dim mwy na hanner diwrnod fel arfer. Croesawir pob adran ac mae’r sesiynau yn cynnwys nifer o bynciau cyffredin.

Yr Academi – rhaglen ddatblygu preswyl ar gyfer arweinwyr y dyfodol sy’n arwain at weithio mewn tîm am 12 mis er mwyn cyflawni prosiect arloesi.

Mwy o wybodaeth

Gallwch gofrestru i dderbyn e-byst atgoffa am y blog yma. Cliciwch ar y linc sy’n dweud “sign up for updates”. Neu gallwch gysylltu gyda’r Cydlynydd, Nita Murphy neu gyda’r Cydlynydd Cynorthwyol, Heidi Stephens.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych - diolch!

 

 

 

 

 

 

Sharing and comments

Share this page